Lleoliad y cyfarfod:
Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 26
Ionawr 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn drwy gynhadledd fideo.
Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig.
Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(15 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Cynigion i ethol Aelodau i Bwyllgorau
(5 munud)
NDM7563 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Angela Burns (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn lle Andrew RT Davies (Ceidwadwyr Cymreig).
NDM7564 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Nick Ramsay (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn lle Laura Anne Jones (Ceidwadwyr Cymreig).
NDM7565 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Darren Millar (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lle Angela Burns (Ceidwadwyr Cymreig).
NDM7566 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Laura Anne Jones (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn lle Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig).
NDM7567 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle Darren Millar (Ceidwadwyr Cymreig).
NDM7568 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid yn lle Nick Ramsay (Ceidwadwyr Cymreig).
NDM7569 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod amgen o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Darren Millar (Ceidwadwyr Cymreig).
3 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Frechiadau COVID-19
(30 munud)
4 Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Diweddariad ar Gymwysterau ar gyfer 2021
(30 munud)
5 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg: Hyrwyddo defnyddio'r Gymraeg mewn teuluoedd (polisi trosglwyddo yn y teulu)
(30 munud)
6 Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020
(15 munud)
NDM7553 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Rhagfyr 2020.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
7 Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020
(15 munud)
NDM7554 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Rhagfyr 2020.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 8-9 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân
(30 munud)
8 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2021
NDM7555 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Ionawr 2021.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
9 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021
NDM7556 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Ionawr 2021.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 10-11 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân
(60 munud)
10 Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.95 fod Bil a elwir yn Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) yn cael ei drin fel Bil Brys y Llywodraeth
NDM7557 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.95 yn:
Cytuno bod Bil llywodraeth a gaiff ei alw'n Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) a gyflwynir yn y Senedd, yn cael ei drin fel Bil Brys llywodraeth.
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.95A, gosodwyd datganiad ynglŷn â'r Bil a gaiff ei alw'n Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) gerbron y Senedd ar 19 Ionawr 2021.
11 Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.98(ii) i gytuno ar amserlen ar gyfer y Bil a elwir yn Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws)
NDM7558 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.98(ii) yn:
Cytuno y bydd yr amserlen ar gyfer Bil Brys llywodraeth a gaiff ei alw'n Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) fel ag y mae yn yr Amserlen ar gyfer ystyried Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) a osodwyd gerbron y Senedd ar 19 Ionawr 2021.
12 Dadl: Adroddiad Effaith Pwyllgor Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2019-20
(30 munud)
NDM7496 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi Adroddiad Effaith Pwyllgor Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2019-20.
Adroddiad Effaith Cymru 2019-20
13 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 27 Ionawr 2021